Cynnig Dylunio ar gyfer Stryd Mynwy
Mae Stryd Mynwy yn rhedeg trwy ganol tref Trefynwy. Mae'n stryd brysur gyda llawer yn digwydd, felly mae tagfeydd yn gyffredin.
Roedd Cyngor Sir Fynwy eisiau creu strydlun bywiog a deniadol sy'n gyrchfan i bawb ac sy’n:
Datrys problemau llwytho a pharcio i'r anabl ar y stryd
Gweithio i siopau a busnesau'r stryd
Lle croesawgar i gerddwyr a beicwyr.
Datblygiad Partneriaeth Tref Y Drenewydd
I ddechrau, es i siarad â'r rhai oedd â diddordeb. Yna trefnais gyfres o weithdai, gan wahodd pobl, busnesau a sefydliadau lleol eraill iddynt. Yn y gweithdai, defnyddiais enghreifftiau o bob rhan o Brydain i ddangos buddion partneriaethau canol trefi. Gwahoddais hefyd bobl i ddechrau meddwl am ddiben, ffurf a swyddogaeth partneriaeth bosibl.
Esboniais i'r pum cynghorydd sir yn y Drenewydd beth oedd diben ac amcanion partneriaeth y dref fel y gallent ddeall eu rôl o ran sianelu pryderon a chyfleoedd o lefel leol i lefel strategol.
Yna cynhaliais ail gyfres o weithdai, gan wahodd pobl i helpu i lunio'r gweithgareddau y gallai partneriaeth tref ddangos cyfeiriad ar eu cyfer. Buom hefyd yn ystyried:
Sut i lywodraethu a rheoli'r bartneriaeth, gan gynnwys sut y byddai'n cael ei chadeirio
Sut y byddai pob sector yn cael ei gynrychioli ar y bartneriaeth
Sut y byddai'r bartneriaeth yn cyfathrebu ac yn adrodd ar ei gwaith, gan gynnwys sut y gallai'r gymuned ehangach godi materion i'w trafod mewn cyfarfodydd partneriaeth.
Mewn camau diweddarach, helpais i ddrafftio cylch gorchwyl y bartneriaeth, a gyda chefnogaeth dau gynghorydd tref, fe wnes i hyrwyddo cyfarfod agoriadol partneriaeth y dref ym mis Tachwedd 2023 a gwahodd pobl yno.
Neuadd Gymunedol Llwynhendy, Llanelli
Cefais fy mhenodi i edrych ar y llecyn gwyrdd a'r potensial ar gyfer hwb cymunedol a fyddai'n ychwanegu mwy o le at y llyfrgell bresennol ar gyfer digwyddiadau cymunedol a gwasanaethau lleol.
Dros y chwe mis y bûm yn gweithio ar y prosiect, roeddem yn gwahodd y gymuned leol i gymryd rhan wrth lunio'r cynigion terfynol trwy sawl digwyddiad. Roedd y rhain yn cynnwys:
Teithiau arferion gorau i Rydaman a Brynaman
Amrywiol ymgyngoriadau cymunedol
Gweithdy i randdeiliaid lleol.
Roedd y broses gyfan yn hygyrch ac yn gynhwysol. Pan gyrhaeddodd pandemig y coronafeirws ym mis Mawrth 2020, newidiasom ein dull gweithredu fel y gallem barhau i gynnwys â chymaint o bobl â phosibl.
Brand Lle Hwlffordd
Gweithiais gyda Giles Davis a Lee John Phillips, trwy ein hasiantaeth brandio arbenigol Rooted in Place. Gyda'n gilydd, buom yn llunio strategaeth gyfathrebu, dylunio a brandio.
Trwy gyfres o sesiynau briffio, teithiau cerdded yn y dref ac ymchwil desg, daethom i ddeall y strategaeth fuddsoddi, canfyddiadau o'r dref, sut y caiff ei hyrwyddo ar hyn o bryd a'r angen i gyd-fynd â dull ehangach Croeso Sir Benfro.
Yna, buom yn trefnu nifer o ymgynghoriadau cymunedol, a oedd yn cynnwys arolwg ar-lein a hyrwyddir gan y cyfryngau cymdeithasol, cymhorthfa galw heibio am ddeuddydd yng nghanol y dref a rhai gweithdai wedi'u targedu.
Fe wnaethon ni gynnal y gymhorthfa galw heibio mewn siop wag. Buom yn gosod ffotograffau a brasluniau o olygfeydd o’r dref ar linellau golchi a gwahodd pobl i ddweud wrthym beth maen nhw'n ei hoffi am Hwlffordd a lle mae'r dref yn ddiffygiol. Daeth dros 300 o bobl, gan gynnwys disgyblion ysgol uwchradd a grŵp hanes lleol.
Roedd y cyfuniad o ymatebion i'r arolwg a sylwadau wyneb yn wyneb yn ein helpu i ddeall atyniadau unigryw y dref a chreu brîff ar gyfer y cam dylunio. O'n gwaith ymchwil, fe wnaethon ni ddysgu mai'r pethau "gorau" am Hwlffordd yw (mewn trefn):
Yr afon
Lleoliad Canol Sir Benfro
Y castell
Pobl gyfeillgar
Siopau annibynnol
Hanes a threftadaeth.
Yna fe wnaethon ni eu gwau yn hunaniaeth hawdd ei hadnabod sy'n cyfleu "Calon Sir Benfro". Cynaliasom weithdai gyda'r cyngor sir cyn ymgynghori'n ehangach ar y cynllun gyda'r cyngor tref a'r cylch busnes lleol.
Cynllun Teithio Llesol Ffordd yr Eglwys, Cil-y-coed
Bûm yn helpu Cyngor Sir Fynwy gyda'i brosiectau teithio llesol, gan gynnwys Strategaeth a Chynllun Gweithredu ehangach Canol Tref Cil-y-coed:
Helpais i reoli prosiect y cynllun cysyniad ar gyfer Ffordd yr Eglwys, y cais i Lywodraeth Cymru am gyllid teithio llesol a'r grant Seilwaith Gwyrdd Trawsnewid Trefi.
Gweithiais gyda'r cyngor ar rannau eraill o'r Rhwydwaith Teithio Llesol, gan gynnwys y dyluniad ar gyfer y llwybr a rennir drwy'r Parc Gwledig gan gysylltu â llwybr y Lôn Las.
Bûm yn gweithio ar y cysylltiad teithio llesol trwy ganol y dref i Heol Casnewydd (gorllewin) a chamau eraill, gan ganolbwyntio ar Ffordd yr Orsaf a'r cyswllt terfynol â Chyffordd Twnnel Hafren.
Bûm yn rheoli’r prosiect yn strategol, cynnal ymgyngoriadau a pharatoi cynlluniau busnes ac ariannu.
Fframwaith Adfywio Cymoedd Gorllewinol
Gofynnwyd i mi greu fframwaith a oedd yn ymdrin â llesiant economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol mewn modd integredig yn y cymoedd gan adlewyrchu heriau a chyfleoedd lleol a rhanbarthol.
Mae gan bob un o'r tri chwm gymeriad a hunaniaeth neilltuol, gyda balchder lleol ac ymdeimlad o berthyn. Roedd yn hanfodol parchu'r ysbryd cymunedol hwn wrth ystyried y newid yn y tirwedd rhanbarthol. Ein nod oedd helpu i sicrhau bod y cymunedau'n gynaliadwy drwy roi diben a gwerth newydd i'r ardal yn seiliedig ar etifeddiaeth hen ddiwydiannau a chofleidio meddwl newydd.
Gweithiais gyda Roberts Limbrick Architects i gyfleu a dangos rhai o'r heriau a'r cyfleoedd ar draws y tri chwm. Arweiniwyd y gwaith hwn gan:
Sgyrsiau strategol gyda rhai o'r asiantaethau a sefydliadau mwy sy'n gweithio yn y cymoedd
Dadansoddiad desg o ddata polisi ac ystadegol
Ymweliadau safle i nodi cyfleoedd a chysylltiadau
Adolygiad o brosiectau sydd ar y gweill a'u statws.
Cynllun Lle Towyn a Bae Cinmel
Fe wnes i helpu i ysgrifennu'r Cynllun Lle. Mae'r themâu blaenoriaeth a gynhwyswyd gennym yn ymateb i heriau allweddol Towyn a Bae Cinmel a'r cyfleoedd a nodais o'm hymchwil a gymeradwywyd gan y gymuned leol ac ymgyngoriadau rhanddeiliaid a gynheliais.
Gweledigaeth Dyfodol Chard
Bûm yn gweithio i PER Consulting fel prif ymgynghorydd y strategaeth ar gyfer cyd-drafod â'r gymuned a rhanddeiliaid.
Gwnaethom gynnal yr astudiaeth yn gynnar yn 2021, wrth i’r Deyrnas Unedig ddod allan o ail gyfnod clo Covid-19. Roedd hyn yn golygu na allem ddefnyddio mannau dan do ac roedd angen i mi addasu fy nulliau er mwyn sicrhau fy mod yn dal i allu ymwneud â chymaint o bobl â phosibl. Roedd y dulliau a ddefnyddiais yn cynnwys:
Taith gerdded a siarad o gwmpas y dref
Gweithdy mewn parc lleol
Sgyrsiau gyda rhieni a gwarcheidwaid wrth giât yr ysgol
Sesiwn galw heibio y tu allan i neuadd y dref
Arolwg ar-lein
Cyfres o weminarau cymunedol rhyngweithiol.
Fframwaith Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr
Bûm yn gweithio mewn partneriaeth â'r Cyngor am dri mis. Cyflawnais ymchwil polisi ac ystadegol ac adolygais astudiaethau a phrosiectau blaenorol.
Gan weithio law yn llaw â swyddogion y cyngor, cefais ddealltwriaeth o brosiectau ar y gweill a phrofi syniadau ar gyfer addasu ac adleoli gweithgareddau a gwasanaethau yng nghanol y dref, megis addysg, busnesau, lleoedd aros, hamdden, ffordd o fyw a siopau. Fe wnaethom hefyd ystyried mynediad, cysylltiadau a seilwaith a hyrwyddo trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a beicio.
Gan ddefnyddio hunaniaeth gorfforaethol Pen-y-bont ar Ogwr, fe wnaethom ddylunio dogfen a oedd yn dangos dilyniant rhesymegol o leoliad y dref yn y rhanbarth, y fwrdeistref sirol a chanol y dref ei hun.
Dyfeisiwyd gweledigaeth, fframwaith strategol a chyfleoedd thematig o fewn dogfen weledol gref a oedd yn cynnwys argraffiadau, cynlluniau a delweddau blaenorol gan artistiaid. Yn olaf, edrychasom ar ganlyniadau, sut y gellid eu cyflawni a sut roeddent yn cyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015.