Brand Lle Hwlffordd

Haverfordwest Place Brand

Cleient: Cyngor Sir Benfro

Partneriaid: Rooted in Place: Sensible, Lee John Phillips

Lle: Hwlffordd, Sir Benfro

Angen y gymuned

Ym mis Mawrth 2022, ceisiodd Cyngor Sir Penfro ddatblygu brand lle ar gyfer tref Hwlffordd. Mae'r dref wedi derbyn buddsoddiad sylweddol yn ddiweddar a fydd yn galluogi datblygu asedau allweddol er budd y gymuned leol a denu ymwelwyr.

Nod y prosiect oedd creu hunaniaeth dref, 'brand ymbarél' ac ymgyrch brand i hyrwyddo Hwlffordd. Rhan gynhenid o'r brand oedd golwg a theimlad llecynnau cyhoeddus a sut mae pobl yn eu defnyddio ac yn symud trwyddynt, yn enwedig wrth i'r datblygiadau newydd fynd rhagddynt.

Yr hyn a wnes i

Gweithiais gyda Giles Davis a Lee John Phillips, trwy ein hasiantaeth brandio arbenigol Rooted in Place. Gyda'n gilydd, buom yn llunio strategaeth gyfathrebu, dylunio a brandio.

Trwy gyfres o sesiynau briffio, teithiau cerdded yn y dref ac ymchwil desg, daethom i ddeall y strategaeth fuddsoddi, canfyddiadau o'r dref, sut y caiff ei hyrwyddo ar hyn o bryd a'r angen i gyd-fynd â dull ehangach Croeso Sir Benfro.

Yna, buom yn trefnu nifer o ymgynghoriadau cymunedol, a oedd yn cynnwys arolwg ar-lein a hyrwyddir gan y cyfryngau cymdeithasol, cymhorthfa galw heibio am ddeuddydd yng nghanol y dref a rhai gweithdai wedi'u targedu.

Fe wnaethon ni gynnal y gymhorthfa galw heibio mewn siop wag. Buom yn gosod ffotograffau a brasluniau o olygfeydd o’r dref ar linellau golchi a gwahodd pobl i ddweud wrthym beth maen nhw'n ei hoffi am Hwlffordd a lle mae'r dref yn ddiffygiol. Daeth dros 300 o bobl, gan gynnwys disgyblion ysgol uwchradd a grŵp hanes lleol.

Roedd y cyfuniad o ymatebion i'r arolwg a sylwadau wyneb yn wyneb yn ein helpu i ddeall atyniadau unigryw y dref a chreu brîff ar gyfer y cam dylunio. O'n gwaith ymchwil, fe wnaethon ni ddysgu mai'r pethau "gorau" am Hwlffordd yw (mewn trefn):

  • Yr afon

  • Lleoliad Canol Sir Benfro

  • Y castell

  • Pobl gyfeillgar

  • Siopau annibynnol

  • Hanes a threftadaeth.

Yna fe wnaethon ni eu gwau yn hunaniaeth hawdd ei hadnabod sy'n cyfleu "Calon Sir Benfro". Cynaliasom weithdai gyda'r cyngor sir cyn ymgynghori'n ehangach ar y cynllun gyda'r cyngor tref a'r cylch busnes lleol.

Y canlyniad

Mae'r brif hunaniaeth yn cyfuno’r castell, yr afon a safle canolog Hwlffordd yn Sir Benfro gyda theip mercantile sy'n cynrychioli gorffennol masnachu'r dref.

Mae'r palet lliw yn cyfeirio at amgylchedd naturiol ac adeiledig Hwlffordd, a ysbrydolir gan yr afon, adeiladau eiconig a theils y dref a ddarganfuwyd o gloddiadau yn y ffrierdy.

Ym mis Gorffennaf 2023, fe wnaethon ni’r canlynol:

  • Lansio'r brand lle gyda phartneriaid lleol

  • Creu pecyn adnoddau ar-lein ar gyfer defnydd ehangach

  • Cynhyrchu rhai eitemau hyrwyddo, gan gynnwys bagiau siopa, mygiau, beiros, sticeri a bathodynnau pin, ar gyfer busnesau lleol a sefydliadau eraill.

Mae'r brand bellach yn cael ei ddefnyddio ar arwyddion safle o amgylch prosiectau adfywio ac mae hefyd yn cael ei ystyried yn strategaeth ddynodi llwybrau a ffyrdd y dref yn y dyfodol.

Previous
Previous

Neuadd Gymunedol Llwynhendy, Llanelli

Next
Next

Cynllun Teithio Llesol Ffordd yr Eglwys, Cil-y-coed