
Dyma lle mae lleoedd gwych yn cychwyn
Beth dw i’n ei wneud
Dw i’n helpu gwneud i leoedd ffynnu, gyda phobl yn brif ystyriaeth bob cam o’r ffordd. Yn gyntaf, dw i’n creu cyfleoedd diddorol i bobl drafod eu tref neu gymuned. Wedyn dw i’n arwain newid a helpu gwneud iddo ddigwydd.
Wrth ddeall yr angen i helpu pobl feddwl pa mor rymus y gall eu heffaith fod, dw i’n canolbwyntio ar ddatblygu perchnogaeth gymunedol a sicrhau newid parhaol.
Sut dw i’n gweithio
CAM UN
Cychwyn y sgwrs
Dod i adnabod pobl, eu hanghenion a’u syniadau ynghylch beth sy’n gwneud lle da yw sail unrhyw broses o dan arweiniad cynllun.
Er mwyn cyflawni cynllun sy’n wirioneddol o dan arweiniad pobl o’r cychwyn, mae’n hanfodol deall y canlyniadau’r ydych yn anelu atynt – megis llesiant a chynaliadwyedd – a gwreiddio’r rhain yn y feddylfryd a’r cynigion terfynol.
Ar gychwyn pob prosiect, dw i’n gweithio’n galed i sefydlu cysylltiadau cryf. Fy nod yw cynnwys cymaint o randdeiliaid â phosibl wrth reoli’r prosiect fel ei fod yn elwa ar eu gwybodaeth a’u sgiliau amrywiol.
CAM DAU
Deall lle
I gael teimlad am le, dw i bob amser yn cerdded i lawr y Stryd Fawr neu’n crwydro o gwmpas y gymdogaeth. Wrth gerdded, byddaf yn gofyn cwestiynau fel, A yw’n hawdd symud o gwmpas? Pa mor amrywiol yw’r defnydd o wneir ohono? A oes teimlad fod gofal yn cael ei gymryd o’r lle? A yw’r bobl yn gyfeillgar? Mae’r hyn a ganfyddaf yn fy helpu i ddeall cymeriad lle a’r cryfderau a’r gwendidau y dylai’r prosiect ganolbwyntio arno.
CAM TRI
Gwrando ar bobl
Er mwyn i broses ddylunio gynhwysol lwyddo, rhaid iddi roi cyfle i bobl chwarae rhan weithredol mewn llunio dyfodol eu lle.
I ganfod hynny ag sy’n bosibl o wahanol farnau, dw i’n ystyried pethau fel rhwydweithiau a phartneriaethau sy’n bod eisoes, sut i gynnwys pobl ifanc, lle a pha bryd i gynnal digwyddiadau a sut i’w hyrwyddo.
Yn ogystal â gwrando ar bobl, mae’n hanfodol gadael iddynt wybod sut fydd yr hyn y maen nhw’n ei ddweud yn dylanwadu ar y broses ac yn helpu i lunio’r lle terfynol.
CAM PEDWAR
Arloesi a dylunio
Dw i’n sicrhau bod pob barn sydd wedi cael ei chasglu yn cael ei defnyddio yn y broses ddylunio i lunio’r cynigion terfynol.
Mae enghreifftiau o arloesi yn cynnwys defnyddio asedau naturiol mewn ffordd gynaliadwy, dylunio adeiladau mewn ffordd newydd ac ailgyfeirio traffig i greu lleoedd cyfeillgar i gerddwyr. Mae creadigrwydd yn cynnwys cyfuno asedau presennol â syniadau newydd mewn ffordd sy’n gydnaws â chanlyniadau diffiniedig y prosiect.
CAM PUMP
Gwneud iddo ddigwydd
Yn aml, mae’r ynni a gaiff ei greu trwy broses ddylunio gynhwysol yn dod i’r amlwg wrth weithredu’r prosiect hefyd. Dw i’n sicrhau bod strategaeth gyfathrebu glir fel bod y sgwrs gyda’r gymuned a rhanddeiliaid eraill yn parhau gydol oes y prosiect.
Pethau arall sydd yn fy marn i’n helpu gwneud y prosiect yn llwyddiant yw capasiti a sgiliau tîm y prosiect, ei gyfansoddiad a’i drefniadaeth, tasgau eraill sydd angen eu cwblhau ac unrhyw fylchau mewn cyllid sydd angen eu llenwi.
Yn olaf, mae’n hanfodol deall sut y byddwch chi’n gwybod bod y prosiect wedi llwyddo wrth ddod â bywyd i le gwych.
Sut mae fy ngwaith wedi cael ei gydnabod
Dw i’n ddiolchgar am y llawer o wobrau dw i wedi eu derbyn ers imi gychwyn fy ngwaith. Maen nhw’n cynnwys:
2022
Cymeradwyaeth (ail) yng Ngwobrau Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol y Deyrnas Unedig (Ymgynghoriaeth Gynllunio Fach)
Enillydd Gwobr Cymru y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (Ymgynghoriaeth Gynllunio Fach)
2015
Cyrraedd rhestr fer Gwobr Dewi-Prys Thomas
2013
Cyrraedd rhestr fer Gwobr Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol y Deyrnas Unedig (Rhagoriaeth mewn Cynllunio a Dylunio ar gyfer Tir y Cyhoedd)
Enillydd Gwobr y Cadeirydd am Gynaliadwyedd, Sefydliad Peirianneg Sifil
Enillydd Gwobr Roy Edwards y Sefydliad Peirianneg Sifil (prosiectau o dan £4m)
2010
Cymeradwyaeth y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru a Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig
2005/6
Enillydd Gwobr Aur Canolfannau Siopa Prydain, LGN Streetscene a ICE