Neuadd Gymunedol Llwynhendy, Llanelli
Cleient: Cyngor Gwledig Llanelli
Partneriaid: Roberts Limbrick
Lle: Llanelli, Sir Gaerfyrddin
Angen y gymuned
Yn Llwynhendy, roedd angen canolfan gymunedol lle gallai pobl ddod at ei gilydd, cwrdd â'u ffrindiau, dathlu achlysuron arbennig a dysgu sgiliau newydd. Er bod cae lle roedd plant yn chwarae a digwyddiadau awyr agored yn cael eu cynnal, roedd ei gwmpas yn gyfyngedig ac nid oedd dim cyfleuster dan do.
Ym mis Ionawr 2020, fe wnaeth Cyngor Gwledig Llanelli, mewn partneriaeth ag Ein Llwynhendy Ni (a ariannwyd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol), ddechrau astudiaeth ddichonoldeb i adfywio Caeau Heol Gwili a chreu mannau cymunedol newydd.
Yr hyn a wnes i
Cefais fy mhenodi i edrych ar y llecyn gwyrdd a'r potensial ar gyfer hwb cymunedol a fyddai'n ychwanegu mwy o le at y llyfrgell bresennol ar gyfer digwyddiadau cymunedol a gwasanaethau lleol.
Dros y chwe mis y bûm yn gweithio ar y prosiect, roeddem yn gwahodd y gymuned leol i gymryd rhan wrth lunio'r cynigion terfynol trwy sawl digwyddiad. Roedd y rhain yn cynnwys:
Teithiau arferion gorau i Rydaman a Brynaman
Amrywiol ymgyngoriadau cymunedol
Gweithdy i randdeiliaid lleol.
Roedd y broses gyfan yn hygyrch ac yn gynhwysol. Pan gyrhaeddodd pandemig y coronafeirws ym mis Mawrth 2020, newidiasom ein dull gweithredu fel y gallem barhau i gynnwys â chymaint o bobl â phosibl.
Y canlyniad
Roedd y cynigion a gyflwynwyd gennym yn cynnwys:
Cyfleuster hamdden cymunedol
Gardd gwlyptir i ymlacio ynddi
Ardal chwarae organig a naturiol i blant ger y safle gemau aml-ddefnydd presennol
Plannu coed i fynd i'r afael â natur gorsiog y maes
Lle picnic a barbeciw newydd yn yr ardal goediog bresennol
Lle awyr agored hyblyg ar gyfer cicio pêl, partïon a digwyddiadau awyr agored fel ffeiriau a charnifalau.
Mae'r prosiect bellach (Rhagfyr 2023) wedi derbyn cyllid ar gyfer cam un, a fydd yn creu lleoedd chwarae newydd i blant iau a hŷn, ac yn cyflawni gwelliannau amgylcheddol i'r tir o amgylch y llyfrgell.