Cynnig Dylunio ar gyfer Stryd Mynwy
Cleient: Cyngor Sir Fynwy
Partneriaid: Roberts Limbrick
Lle: Trefynwy, Sir Fynwy
Angen y gymuned
Mae Stryd Mynwy yn rhedeg trwy ganol tref Trefynwy. Mae'n stryd brysur gyda llawer yn digwydd, felly mae tagfeydd yn gyffredin.
Roedd Cyngor Sir Fynwy eisiau creu strydlun bywiog a deniadol sy'n gyrchfan i bawb ac sy’n:
Datrys problemau llwytho a pharcio i'r anabl ar y stryd
Gweithio i siopau a busnesau'r stryd
Lle croesawgar i gerddwyr a beicwyr.
Yr hyn a wnes i
Bûm yn helpu Roberts Limbrick Architects, a arweiniodd ar y cynigion i ail-ddychmygu Stryd Mynwy.
Er mwyn helpu cael arweiniad ar gyfer y cynigion dylunio, fe wnes i gynllunio a chynnal cyfres o ddigwyddiadau ymgynghori â rhanddeiliaid a’r cyhoedd:
Tri gweithdy cydgynhyrchu ymarferiol gyda rhanddeiliaid
Dau ymgynghoriad busnes drws i ddrws
Ymgynghoriad cyhoeddus agored gyda staff yng nghanol y dref dros ddau ddiwrnod ac arddangosfa sefydlog am bythefnos yn y Ganolfan Cymunedol
Arolwg ar-lein ac all-lein.
Yn dilyn pob ymgynghoriad â rhanddeiliaid ac ymgynghori o ddrws i ddrws gyda busnesau, gwnaethom ddiweddaru'r cynigion dylunio yng ngoleuni'r sylwadau a dderbyniasom, ac yn unol â gweledigaeth ac uchelgais y prosiect a chyd-destun yr opsiwn a ffefrir gan arweiniad ar arfarnu trafnidiaeth Cymru (WelTAG).
Fe wnaethom hefyd gynnal adolygiad tebyg ar ôl yr ymgynghoriad cyhoeddus a'r arolwg cyn penderfynu ar gysyniad dylunio terfynol.
Y canlyniad
Mae'r cynnig ar gyfer Stryd Monnow yn cynnwys yr egwyddorion dylunio canlynol:
Cysylltiadau cryfach i drigolion greu stryd dawelach a mwy heddychlon nad yw'n cael ei llethu gan draffig drwodd.
Teithio llesol, gan ddefnyddio llwybrau troed ehangach a phriffordd gulach i leihau goruchafiaeth ceir a hyrwyddo cerdded a beicio ar ei hyd.
Gwell mynediad i bawb, gyda phwyslais arbennig ar bobl â nam ar eu golwg trwy gynnwys stribed cyffyrddol amlwg.
Lle parcio beiciau er mwyn annog beicio yng nghanol y dref.
Troedffordd ehangach i ganiatáu i rai busnesau 'ymestyn allan' i’r stryd a chreu amgylchedd bywiog a byrlymus.
Gwell llif traffig, gan gynnwys cilfachau llwytho i wasanaethu busnesau'r stryd.
Seilwaith gwyrdd-las ar gyfer draenio trefol cynaliadwy, hidlo llygredd, gwyrddu tir cyhoeddus a llesiant cyffredinol.
Arwyddion gwell a symlach, goleuadau stryd mwy effeithlon a chael gwared ar nodweddion diangen fel llinellau melyn a bolardiau.