Gwefan a brand newydd cydweithredol
Mae hi wedi bod yn amser rhyfedd a dychrynllyd i bawb ohonom gyda Covid-19, ac efallai na chafwyd amser gwell i feddwl tipyn ynghylch pwy ydym a beth ydym yn ei gyfrannu i’n cymunedau. Gyda dros 30 mlynedd o brofiad roedd arnom eisiau sicrhau bod ein brand a’n presenoldeb ar-lein yn addas ac yn adlewyrchiad gwirioneddol o’n cynnig, ac yn ein helpu ni i gysylltu gyda’r rheini sy’n chwilio am gyngor ar greu lleoedd.
Lleoedd rydym yn eu helpu
Er y bu rhaid cyfyngu ar ein presenoldeb corfforol yn ddiweddar, rydym wedi adeiladau ar ein sgiliau digidol wrth gynhyrchu ffilmiau byr, lawrlwytho pecynnau gwybodaeth a defnyddio arolygon ar-lein a chyfryngau cymdeithasol. Mae hyn wedi helpu sicrhau bod llais gan gymunedau ar syniadau a chynigion ac mae wedi creu rhwydweithiau yn barod erbyn llacio cyfyngiadau Covid-19
Ymestyn allan yn y cyfnod cloi
Yn sgil y cyfnod cloi yng Nghymru a’r cyngor i aros yn lleol, cadwodd Chris Jones o fewn 5 milltir i’r pentref lle mae’n byw ychydig filltiroedd i’r de o’r Fenni, ac mae wedi helpu cefnogi bywyd ei gymuned mewn sawl ffordd. Mae wedi cefnogi a noddi gwobrau cymunedol “Going the Goytre Mile” y cyfnod cloi, sydd wedi diolch i restr faith o bobl leol a aeth y filltir ychwanegol dros bobl fregus yn lleol. Gallai hyn olygu casglu presgripsiynau, casglu ar gyfer y banc bwyd neu ddosbarthu ambell bastai a sglodion i’r henoed.
Ein stiwdio yn 15 Nevill Street
Mae’n lle gwych ar gyfer cyfarfodydd gyda chyd-benseiri, dylunwyr trefol, pobl lleoedd a chleientiaid, wrth inni barhau â naws creadigol a stiwdio yn yr ystafell.