Cynllun Teithio Llesol Ffordd yr Eglwys, Cil-y-coed

Church Road Active Travel Scheme, Caldicot

Cleient: Cyngor Sir Fynwy

Partneriaid: Roberts Limbrick

Lle: Cil-y-coed, Sir Fynwy

Angen y gymuned

Nod cynllun teithio llesol tref Cil-y-coed yw creu rhwydwaith integredig o lwybrau gyda chyfleusterau pwrpasol ar gyfer cerdded, beicio a defnydd cymysg, yn ogystal â thawelu traffig a throedffyrdd gwell. Mae'r prosiect yn gysylltiedig hefyd â seilwaith gwyrdd, gweithgareddau llesiant, rheoli cyrchfan a chamau datblygu economaidd lleol.

Yr hyn a wnes i

Bûm yn helpu Cyngor Sir Fynwy gyda'i brosiectau teithio llesol, gan gynnwys Strategaeth a Chynllun Gweithredu ehangach Canol Tref Cil-y-coed:

  • Helpais i reoli prosiect y cynllun cysyniad ar gyfer Ffordd yr Eglwys, y cais i Lywodraeth Cymru am gyllid teithio llesol a'r grant Seilwaith Gwyrdd Trawsnewid Trefi.

  • Gweithiais gyda'r cyngor ar rannau eraill o'r Rhwydwaith Teithio Llesol, gan gynnwys y dyluniad ar gyfer y llwybr a rennir drwy'r Parc Gwledig gan gysylltu â llwybr y Lôn Las.

  • Bûm yn gweithio ar y cysylltiad teithio llesol trwy ganol y dref i Heol Casnewydd (gorllewin) a chamau eraill, gan ganolbwyntio ar Ffordd yr Orsaf a'r cyswllt terfynol â Chyffordd Twnnel Hafren.

  • Bûm yn rheoli’r prosiect yn strategol, cynnal ymgyngoriadau a pharatoi cynlluniau busnes ac ariannu.

Y canlyniad

Cwblhawyd cam cyntaf y prosiect, cynllun strydoedd gwâr, yn haf 2021. Roedd yn canolbwyntio ar welliannau ffisegol i Heol yr Eglwys ar y gyffordd â Cross Close, amgylchedd mwy diogel i gerddwyr y tu allan i'r ysgol gynradd leol a chroesfan fwy diogel wrth y gornel a'r gyffordd â'r castell a'r parc gwledig.

Daeth cam olaf y gwaith i ben yn haf 2023. Cwblhawyd gweddill y ffordd gyda phalmentydd yn ymwthio allan, mannau croesi blaenoriaeth i gerddwyr a chysylltiadau gwell i'r parc gwledig.

Previous
Previous

Brand Lle Hwlffordd

Next
Next

Fframwaith Adfywio Cymoedd Gorllewinol