Fframwaith Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr
Cleient: Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Partneriaid: Roberts Limbrick
Lle: Pen-y-bont ar Ogwr, Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Angen y gymuned
Yng Ngwanwyn 2018, gofynnodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i mi eu helpu i ddatblygu dogfen fframwaith ar gyfer canol tref Pen-y-bont ar Ogwr.
Roedd y cyngor yn ymwybodol o'i fuddsoddiadau yn y gorffennol trwy’r fenter Treftadaeth Treflun a rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru, ond roedd arno eisiau dogfen newydd a fyddai’n gosod cyfeiriad i ganol y dref at y dyfodol, yng nghyd-destun Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a gwaith Tasglu'r Cymoedd. Roedd hefyd angen deall rôl a swyddogaeth aneddiadau eraill yn y fwrdeistref sirol, a chydberthynas â nhw.
Gyda chefnogaeth Roberts Limbrick Architects, roedd ar y cyngor eisiau creu fframwaith:
A oedd yn hyblyg ac yn llawn dychymyg
A fyddai'n cefnogi ceisiadau am gyllid yn y dyfodol
A oedd yn dangos cyfleoedd i bartneriaid strategol ymrwymo iddynt.
Yr hyn a wnes i
Bûm yn gweithio mewn partneriaeth â'r cyngor am dri mis. Cyflawnais ymchwil polisi ac ystadegol ac adolygais astudiaethau a phrosiectau blaenorol.
Gan weithio law yn llaw â swyddogion y cyngor, cefais ddealltwriaeth o brosiectau ar y gweill a phrofi syniadau ar gyfer addasu ac adleoli gweithgareddau a gwasanaethau yng nghanol y dref, megis addysg, busnesau, lleoedd aros, hamdden, ffordd o fyw a siopau. Fe wnaethom hefyd ystyried mynediad, cysylltiadau a seilwaith a hyrwyddo trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a beicio.
Gan ddefnyddio hunaniaeth gorfforaethol Pen-y-bont ar Ogwr, fe wnaethom ddylunio dogfen a oedd yn dangos dilyniant rhesymegol o leoliad y dref yn y rhanbarth, y fwrdeistref sirol a chanol y dref ei hun.
Dyfeisiwyd gweledigaeth, fframwaith strategol a chyfleoedd thematig o fewn dogfen weledol gref a oedd yn cynnwys argraffiadau, cynlluniau a delweddau blaenorol gan artistiaid. Yn olaf, edrychasom ar ganlyniadau, sut y gellid eu cyflawni a sut roeddent yn cyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015.
Y canlyniad
Mae'r ddogfen yn helpu'r cyngor i drefnu eu sgyrsiau gyda phartneriaid yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat wrth edrych ar fentrau newydd.