Amdanaf i
Dw i’n helpu creu newid cynaliadwy sy’n rhoi pobl yn gyntaf.
Cynlluniwr tref siartredig ydw i sydd â mwy na 35 mlynedd o brofiad yn gweithio mewn rhaglenni datblygu economaidd, creu lleoedd, datblygu canol trefi, strategaeth, gwerthuso a datblygu gwledig. Dw i’n canolbwyntio ar adfywio cynaliadwy ac ar wneud i bethau ddigwydd.
Dw i wedi arwain prosiectau creu lleoedd ar ran cleientiaid ac fel ymgynghorydd. Mae prosiectau’n cynnwys llecyn cyrchfan Croes Cil-y-coed, cynllun tir cyhoeddus Heart of the City Durham, cynllun adfywio Blaenau Ffestiniog, gwella Iard y Bragdy yn y Fenni ac adfywio Stryd Fawr Cas-gwent.
Dw i hefyd wedi gweithio ar uwchgynlluniau ac astudiaethau lle ledled y Deyrnas Unedig. Mae lleoedd rwyf wedi gweithio ynddynt yn cynnwys Pen-y-bont ar Ogwr, Cinderford, Sir y Fflint, Caergybi, Llanelli, Newcastle-under-Lyme, Northumberland, Wrecsam, Gororau’r Alban a De Swydd Rhydychen.
Fy lle hapus
Byddaf ar ben fy nigon yn fy nghartref yng nghwmni fy ngwraig Miranda, ein tair merch, dau gi ac un crwban. Pan nad ydw i’n cludo’r merched o gwmpas yn ‘tacsi Dad’, dw i’n mwynhau peint yn ein tafarn leol ar ôl bod am dro yn hyfrydwch Bannau Brycheiniog, sydd ar garreg ein drws. Dw i hefyd wrth fy modd yn cael cegin llawn cyfeillion wrth goginio gyda gwydryn yn fy llaw.
Fy ngwerthoedd, sut dw i’n gweithio, a’r hyn sy’n fy ysbrydoli
Cydweithio
Dw i wrth fy modd yn gweithio gyda phobl o gyffelyb fryd. Mae hyn yn rhoi ynni imi ac yn bwydo’r angerdd sydd gen i am fy ngwaith.
Llesiant
Fy ngobaith yw gwella llesiant pobl sy’n fyw ar hyn o bryd a llesiant cenedlaethau’r dyfodol.
Caredigrwydd
Rwyf yn gwneud popeth a allaf i unieithu fy hun â phobl eraill a sicrhau ein bod yn rhan o gymdeithas sy’n hyrwyddo caredigrwydd i bawb.
Cyfrifoldeb
Dw i’n parchu’r cyfrifoldeb a gafodd ei ymddiried ynof i helpu dylanwadu ar ddyfodol lle neu gymuned.
Diffuant
Mae fy nghymeriad yn agored, brwdfrydig a diffuant. Dw i’n croesawu syniadau newydd ac yn weithgar yn fy rôl yn creu a rheoli newid.