Gweledigaeth Dyfodol Chard
Cleient: Cyngor Dosbarth De Gwlad yr Haf
Partneriaid: PER Consulting
Lle: Chard, Gwlad yr Haf
Angen y gymuned
Roedd Cyngor Dosbarth De Gwlad yr Haf eisiau datblygu strategaeth 15 mlynedd ar gyfer Chard a oedd yn cydnabod buddsoddiadau diweddar mewn canolfan hamdden newydd ac Ardal Weithredu Treftadaeth. Roedd y dref yn addasu i'r ergydion economaidd a achoswyd gan rai cyflogwyr mawr yn cau, ac ar yr un pryd yn ceisio cynyddu gwerth busnesau mawr fel Numatic, gwneuthurwr y peiriant sugno llwch Henry.
Strategaeth dyfodol Chard oedd cymryd golwg gyfannol, hirdymor, gan adnabod llwybr clir ar gyfer llesiant cymdeithasol, economaidd a chymunedol, sy'n gyson â chynllun a gweledigaeth gyffredinol y cyngor ar gyfer De Gwlad yr Haf. Er bod angen i'r strategaeth ymdrin yn ofodol â’r dref ac estyniadau trefol tebygol, roedd y cyngor hefyd yn awyddus i wneud y canlynol:
Cynnwys cynigion ar gyfer dysgu sgiliau newydd i bobl
Dweud stori Chard ein dyddiau ni
Annog pobl ifanc i aros yn yr ardal.
Her allweddol i'r prosiect oedd yr ad-drefnu llywodraeth leol arfaethedig yng Ngwlad yr Haf. O ganlyniad, roedd angen i ni gymryd agwedd sensitif wrth siarad â swyddogion y cynghorau dosbarth a sir ynghylch cydgysylltu gwasanaethau. Roedd angen i ni hefyd ystyried rôl y cyngor tref o ran asedau cymunedol a phartneriaeth gymunedol.
Yr hyn a wnes i
Bûm yn gweithio i PER Consulting fel prif ymgynghorydd y strategaeth ar gyfer cyd-drafod â'r gymuned a rhanddeiliaid.
Gwnaethom gynnal yr astudiaeth yn gynnar yn 2021, wrth i’r Deyrnas Unedig ddod allan o ail gyfnod clo Covid-19. Roedd hyn yn golygu na allem ddefnyddio mannau dan do ac roedd angen i mi addasu fy nulliau er mwyn sicrhau fy mod yn dal i allu ymwneud â chymaint o bobl â phosibl. Roedd y dulliau a ddefnyddiais yn cynnwys:
Taith gerdded a siarad o gwmpas y dref
Gweithdy mewn parc lleol
Sgyrsiau gyda rhieni a gwarcheidwaid wrth giât yr ysgol
Sesiwn galw heibio y tu allan i neuadd y dref
Arolwg ar-lein
Cyfres o weminarau cymunedol rhyngweithiol.
Y canlyniad
Ar ddiwedd y comisiwn chwe mis, fe wnaethom gynhyrchu gweledigaeth, strategaeth a chynllun gweithredu, a ategwyd gan adroddiad cymdeithasol ac economaidd cychwynnol a fframwaith ar gyfer partneriaeth gymunedol.
Fe wnaeth ein gwaith hefyd helpu'r cyngor dosbarth i adnabod cyfleoedd ar gyfer cydweithredu a chynyddu gwerth ei fuddsoddiad yn y lle.