Pobl sy’n gwneud lleoedd
Dw i’n helpu gwneud pobl yn hapus trwy le a chymuned
Lleoedd da sy’n cael eu defnyddio’n dda
Mae cymuned ffyniannus yn dibynnu ar fwy na lle sydd wedi ei gynllunio’n dda. Mae’n dibynnu hefyd ar:
Y bobl sy’n byw yno
Sut maent yn defnyddio eu llecynnau lleol
Sut mae’r llecynnau hyn yn cydblethu â’r ardal ehangach
Helo. Chris Jones ydw i. Mae fy mlynyddoedd lawer o brofiad wedi fy helpu i ddatblygu set unigryw o sgiliau mewn creu lleoedd, adfywio ac ymgynghori. Gyda’i gilydd, maent yn golygu fy mod i’n deall yr heriau mae cymunedau’n eu hwynebu a sut i’w goresgyn.
Yn fwy na dim, credaf yn y gallu sydd gan rywle i wneud pobl yn hapus a chreu cymunedau grymus, hunan-gynhaliol.
Fy mhrosiectau diweddar
Beth mae pobl yn ei ddweud am fy ngwaith
"Cymwys, proffesiynol ac ymroddgar iawn. Dealltwriaeth glir o'r cyfleoedd a'r risgiau gyda ffyrdd creadigol a chadarnhaol o symud ymlaen, datrys sefyllfaoedd ac adnabod cyfleoedd. Gwybodaeth helaeth ac aelod gwerthfawr o dîm yn ogystal ag arweinydd cymwys."”
— Colette Bosley, Rheolwr Seilwaith Gwyrdd, Cyngor Sir Fynwy
"Mae Chris yn darparu gwasanaeth rhagorol, yn gwrando ac yn ystyried anghenion y cleient wrth greu pecyn ymarferol ar amser ac o fewn y gyllideb gan ddefnyddio ei wybodaeth dreiddgar a'i brofiadau perthnasol. Mae'n arwain y tîm, gan gydlynu is-ymgynghorwyr yn llwyddiannus a sicrhau bod y canlyniad o'r safon uchaf.
— Nathan Blanchard MRTPI IHBC, Menter Treftadaeth Treflun Caergybi
"Roedd yn hawdd gweithio gyda Chris Jones ac roedd wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn gallu cymryd rhan yn ein hymgynghoriad. Roedd y cwmni’n arbennig o dda am ymgysylltu â phobl a sicrhau nad oedd yr iaith Gymraeg yn fater eilradd."
— Jude Boutle, Grŵp Busnes Llandrindod