Fframwaith Adfywio Cymoedd Gorllewinol
Cleient: Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Partneriaid: Roberts Limbrick
Lle: Cymoedd Llynfi, Garw ac Ogwr
Angen y gymuned
Roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi adnabod yr angen am fframwaith adfywio ar gyfer ei gymoedd gorllewinol. Mae’r tri chwm - Llynfi, Garw ac Ogwr - i'r gogledd o draffordd yr M4, wedi'u ffinio â Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i'r gogledd-ddwyrain a Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot i'r gogledd-orllewin.
Roedd y cyngor eisiau fframwaith fyddai'n rhoi cyfeiriad strategol ac yn gosod blaenoriaethau ar gyfer y cymunedau lleol.
Yr hyn a wnes i
Gofynnwyd i mi greu fframwaith a oedd yn ymdrin â llesiant economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol mewn modd integredig yn y cymoedd gan adlewyrchu heriau a chyfleoedd lleol a rhanbarthol.
Mae gan bob un o'r tri chwm gymeriad a hunaniaeth neilltuol, gyda balchder lleol ac ymdeimlad o berthyn. Roedd yn hanfodol parchu'r ysbryd cymunedol hwn wrth ystyried y newid yn y tirwedd rhanbarthol. Ein nod oedd helpu i sicrhau bod y cymunedau'n gynaliadwy drwy roi diben a gwerth newydd i'r ardal yn seiliedig ar etifeddiaeth hen ddiwydiannau a chofleidio meddwl newydd.
Gweithiais gyda Roberts Limbrick Architects i gyfleu a dangos rhai o'r heriau a'r cyfleoedd ar draws y tri chwm. Arweiniwyd y gwaith hwn gan:
Sgyrsiau strategol gyda rhai o'r asiantaethau a sefydliadau mwy sy'n gweithio yn y cymoedd
Dadansoddiad desg o ddata polisi ac ystadegol
Ymweliadau safle i nodi cyfleoedd a chysylltiadau
Adolygiad o brosiectau sydd ar y gweill a'u statws.
Y canlyniad
Datblygais fframwaith ar gyfer adfywio, a oedd yn canolbwyntio'n benodol ar ddadansoddi anghenion, gweledigaeth, themâu a chynigion. Mae'r ddogfen yn hygyrch ac yn hawdd i'r cyngor bwrdeistref sirol ei defnyddio wrth ddadlau achosion strategol i Lywodraeth Cymru, ysgrifennu ceisiadau am gyllid a datblygu cynigion eraill.