Ein stiwdio yn 15 Nevill Street

 
office.jpg
 

Mae Chris Jones wedi bod ag angen ei le parhaol ei hun ers peth amser, felly buom yn lwcus wrth daro ar yr artist lleol Jeremy Thomasa soniodd fod ei hen stiwdio yn Nevill Street yn dod yn wag yn fuan. Byddai Jeremy yn paentio yma gan edrych allan dros y toeau fel Louise Collis o’i flaen, artist tirluniau arall a gafodd ysbrydoliaeth o uchelfannau’r trydydd llawr.

“Y funud roeddech chi’n cerdded i mewn i’r ystafell roedd yn teimlo fel y lle iawn gyda golau naturiol da, uwchben stryd yn llawn o fusnesau annibynnol, siop goffi isod a thafarn ychydig ddrysau i lawr – beth mwy sydd arnoch ei angen!” 

Symudodd Chris ym mis Ionawr 2020, ond mae wedi treulio’r ychydig fisoedd diwethaf gartref yn ystod y cyfnod cloi. Mae bellach yn ôl yn yn y stiwdio wrth i’r Fenni gychwyn ailagor a busnesau lleol angen cefnogaeth ei gilydd.
 
“Mae’n lle gwych ar gyfer cyfarfodydd gyda chyd-benseiri, dylunwyr trefol, pobl lleoedd a chleientiaid, wrth inni barhau â naws creadigol a stiwdio yn yr ystafell.”

Previous
Previous

Ymestyn allan yn y cyfnod cloi