Ymestyn allan yn y cyfnod cloi

 
20200710_125818.jpg
 

Yn sgil y cyfnod cloi yng Nghymru a’r cyngor i aros yn lleol, cadwodd Chris Jones o fewn 5 milltir i’r pentref lle mae’n byw ychydig filltiroedd i’r de o’r Fenni, ac mae wedi helpu cefnogi bywyd ei gymuned mewn sawl ffordd. Mae wedi cefnogi a noddi gwobrau cymunedol “Going the Goytre Mile” y cyfnod cloi, sydd wedi diolch i restr faith o bobl leol a aeth y filltir ychwanegol dros bobl fregus yn lleol. Gallai hyn olygu casglu presgripsiynau, casglu ar gyfer y banc bwyd neu ddosbarthu ambell bastai a sglodion i’r henoed.
 
Fe wnaeth Chris hefyd helpu cael pobl i grwydro eu pentref yn ddiogel a rhoddodd gyfle iddyn nhw am dipyn o hwyl creadigol gyda chystadleuaeth newydd, Bwgan Brain Goetre. Yn olaf, fe wnaeth Chris hefyd drefnu lle canolog i dderbyn cwrw lleol, gyda bragdy UntappedRhaglan yn gollwng pecynnau a mini-pins mewn un lle. Mae hyn wedi helpu’r bragdy trwy gynnal cyflenwad ac wedi rhoi cyfle i’r gymuned flasu rhywfaint o gwrw newydd pe baen nhw’n dymuno hynny!

Previous
Previous

Lleoedd rydym yn eu helpu

Next
Next

Ein stiwdio yn 15 Nevill Street