Gwefan a brand newydd cydweithredol
Mae hi wedi bod yn amser rhyfedd a dychrynllyd i bawb ohonom gyda Covid-19, ac efallai na chafwyd amser gwell i feddwl tipyn ynghylch pwy ydym a beth ydym yn ei gyfrannu i’n cymunedau. Gyda dros 30 mlynedd o brofiad roedd arnom eisiau sicrhau bod ein brand a’n presenoldeb ar-lein yn addas ac yn adlewyrchiad gwirioneddol o’n cynnig, ac yn ein helpu ni i gysylltu gyda’r rheini sy’n chwilio am gyngor ar greu lleoedd.
Rydym wedi bod yn gweithio gyda John & Jane, sydd wedi bod yn gofyn llawer o gwestiynau i ddarganfod y ffordd orau o gyfathrebu a chysylltu gyda phobl o gyffelyb fryd am ein gwasanaethau. Dyma rhai o’r dyfyniadau a glywsom trwy hyn:
“Mae gennych y profiad i ddeall pa fath o newid strategol fydd yn helpu gwella a datblygu ardal, ac rydych yn credu’n angerddol yng ngrym y broses hon a sut y gall wella ansawdd bywydau pob dydd pobl.”
“Mae adfywio yn air rhy gyfyngedig, mae Chris yn fwy na hynny gan ei fod yn ystyried beth mewn gwirionedd yw’r hanfodion sy’n creu lle.”