Lleoedd rydym yn eu helpu

 
DSC_0008_edited-1.jpg
 

Er y bu rhaid cyfyngu ar ein presenoldeb corfforol yn ddiweddar, rydym wedi adeiladau ar ein sgiliau digidol wrth gynhyrchu ffilmiau byr, lawrlwytho pecynnau gwybodaeth a defnyddio arolygon ar-lein a chyfryngau cymdeithasol. Mae hyn wedi helpu sicrhau bod llais gan gymunedau ar syniadau a chynigion ac mae wedi creu rhwydweithiau yn barod erbyn llacio cyfyngiadau Covid-19.
 
Rydym wedi bod wrthi’n brysur yn cydweithio gyda chyngor tref Cinderford, cyngor dosbarth Forest of Dean, PER Consulting a’r penseiri Roberts Limbrick yn datblygu’r achos ar gyfer canol tref Cinderford fel rhan o Gronfa Stryd Fawr y Dyfodol yn Lloegr. Gan gadw cysylltiad â phrosiect Cyrchfan y Groes sy’n cael ei adeiladu yng nghanol tref Cil-y-coed, mae Chris wedi bod yn datblygu’r achos busnes ac yn gweithio ar y cyd â dylunwyr ar brosiect Ffordd yr Eglwys. Mae Chris eisoes wedi sicrhau £400,000 o gronfa Seilwaith Gwyrdd Canol Trefi Llywodraeth Cymru gyda phenderfyniad pellach ar deithio llesol i gwblhau’r pecyn cyllido. Rydym wrthi hefyd yn gweithio’n brysur ar rai prosiectau ar raddfa lai, fel rydym yn nodi ar ein blog.

Previous
Previous

Gwefan a brand newydd cydweithredol

Next
Next

Ymestyn allan yn y cyfnod cloi