Strategaethau a chynlluniau
Mae lleoedd sydd â chynllun economaidd clir yn fwy tebygol o fanteisio i’r eithaf ar eu hasedau a gwireddu eu potensial. Dylai’r cynllun gynnwys amserlen ar gyfer buddsoddi a dangos sut mae gweithgareddau’n gydnaws â pholisi lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
Mae fy arbenigedd yn cynnwys:
adolygiadau polisi a llenyddiaeth
asesiadau cychwynnol
arfarniadau o opsiynau
datblygu ac integreiddio thematig
datblygu prosiectau
amlinellu costau
ffynonellau cyllid a gweithredu rhaglenni.
Dw i hefyd wedi rheoli rhaglenni datblygu gwledig, ac felly’n deall yr heriau dyddiol mae cymunedau, busnesau a sefydliadau gwledig yn eu hwynebu. O ganlyniad, dw i’n ymwybodol o’r cyd-destun polisi a gweithredu a’r ffyrdd gorau o ddatblygu strategaethau a chynlluniau gweithredu tymor canolig i hirdymor.