Creu lleoedd

icon_0010_Town.png
 

Teimlaf yn angerddol ynghylch creu lleoedd sydd wedi eu dylunio’n dda, sy’n drawiadol ac ymarferol ac sy’n ysbrydoli gweithgarwch, meithrin balchder lleol, a galluogi economïau bywiog.

Mae fy arbenigedd yn cynnwys asesu lleoedd ac adeiladau o ran:

  • sut y cânt eu defnyddio

  • i beth

  • sut mae pobl yn symud drwyddynt.

Fy nod yw cydbwyso’r hyn sydd ei angen ar y lle ar hyn o bryd â’r hyn fydd ei angen yn y dyfodol, a hynny ar sail cyd-drafod parhaus â rhanddeiliaid i greu proses ddylunio gynhwysol.

Dw i’n gweithio gyda fy nghymuned broffesiynol i gyfuno cyfraniad y gymuned a datganiadau dylunio a mynediad fel bod swyddogaeth yn rhan annatod o’r dyluniad ffisegol. Rydym wedyn yn datblygu cynigion amrywiol sy’n gydnaws â chaniatâd cynllunio a gofynion statudol.

Gallwn weithredu hefyd fel rheolwyr prosiectau statudol i weithredu prosiectau adfywio ffisegol neu gyfrannu disgyblaethau technegol newydd i dîm sy’n bod eisoes.

Next
Next

Canol trefi