Owen Davies Consulting Ltd
Ymgynghoriaeth gynllunio, adfywio a datblygu economaidd lleol yw Owen Davies. Mae’n canolbwyntio ar wneud lleoedd yn well i fyw ynddynt, a’r rheini’n lleoedd cofiadwy a bywiog.
Mae Owen yn arbenigo mewn adnewyddu cymdogaethau, uwchgynllunio, strategaethau adfywio trefi a glannau dŵr, cyflogaeth a datblygu gwledig. Mae wedi gweithio gyda mwy na 60 o drefi a dinasoedd ym Mhrydain a thramor ac mae’n eistedd fel arbenigwr ar Dasglu Prif Strydoedd y llywodraeth.